Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i hyfforddi amaethwyr er mwyn galluogi ymestyn cyfnod silff carcasau ŵyn o Gymru?
Mae ymestyn cyfnod silff carcasau ŵyn yn bwysig a gallai fod yn ffactor allweddol i’n sector defaid ar drothwy Brexit ac yn sgil yr ansicrwydd ynghylch cytundebau masnach yn y dyfodol.
Bydd ymestyn cyfnod silff yn parhau’n flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru ac mae Hybu Cig Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar addysgu cynhyrchwyr ynghylch pwysigrwydd cynhyrchu cig oen o safon sy’n bodloni anghenion y farchnad. Mae cyfnod silff yn agwedd bwysig ar gyrsiau Dethol Da Byw Hybu Cig Cymru. Ni chodir tâl am y cyrsiau hyn a chânt eu cynnal mewn lladd-dai lleol ar draws Cymru. Hoffwn annog cynhyrchwyr i fynychu’r cyrsiau hyn a rhoi ar waith y gwersi y maent yn eu dysgu yn y digwyddiadau pwysig hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’n ddiweddar £9.2 miliwn o gyllid ar gyfer Hybu Cig Cymru i gyflawni’r Rhaglen Datblygu Cig Coch. Mae tri phrosiect yn rhan o’r rhaglen sef Cynllunio Iechyd Diadell a Buches, y Cynllun Hyrddod Mynydd ac Ansawdd Cig Oen. Bydd y prosiect ansawdd cig oen yn ystyried mesurau ychwanegol ar gyfer helpu i ymestyn cyfnod silff.
Mae nifer o adnoddau ar gael i’w lawrlwytho am ddim yn ogystal, sy’n canolbwyntio’n benodol ar ymestyn cyfnod silff, ar wefan Hybu Cig Cymru.