WAQ76923 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi diweddariad ar gyflawni amcanion Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 mewn perthynas â’r gofyniad ar Weinidogion Cymru i lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 09/08/2018

Gwnaeth Gweinidogion Cymru roi’r cyfrifoldeb am greu a chynnal Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (https://historicplacenames.rcahmw.gov.uk/). Cafodd y rhestr ei lansio ym mis Mai 2017 ac mae ar gael am ddim ar-lein ac ar ffurf set ddata ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.

 

Mae’r rhestr eisoes yn cynnwys 350,000 o gofnodion ac yn eu mysg mae enwau nodweddion topograffig, cymunedau, ffyrdd, strwythurau, caeau ac unrhyw elfennau eraill o dirwedd Cymru y mae modd eu pennu a’u mapio mewn ffynonellau a grëwyd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r rhestr yn cynnwys cyfleuster chwilio mapiau a thestun ac mae’n cofnodi gwahanol ffurfiau ar enwau. Bydd yn parhau i dyfu wrth i ffynonellau newydd gael eu hychwanegu ac wrth i waith ymchwil ganfod rhagor o enwau.  

 

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cyflogi curadur amser llawn sy’n canolbwyntio ar ddatblygu’r rhestr, ymdrin ag ymholiadau a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein henwau lleoedd hanesyddol. Trwy addysgu pobl Cymru ynghylch gwerth yr agweddau allweddol hyn ar yr amgylchedd hanesyddol bydd y rhestr yn helpu i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol at y dyfodol, gan annog pobl i barhau i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd.

 

Mae canllawiau statudol yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol,  awdurdodau’r parciau cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried y rhestr pan fydd eu gwaith yn cynnwys enwi neu ailenwi lleoedd. Mae hyn yn cynnwys enwi neu ailenwi strydoedd, eiddo a lleoedd eraill, un ai’n uniongyrchol neu gan barti arall. Gobeithir y bydd gweithredu’r rhestr a’r canllawiau statudol yn arwain at leihad yn nifer y newidiadau ffurfiol i enwau eiddo hanesyddol.

 

Caiff rhagor o ganllawiau arfer da eu datblygu ar enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru yn ystod 2018. Bydd y canllawiau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd enwau lleoedd o fewn hanes diwylliannol, cymdeithasol ac ieithyddol ein gwlad ac yn rhoi rhagor o arweiniad i berchenogion, datblygwyr ac awdurdodau lleol ynghylch yr hyn y gall y rhestr o enwau lleoedd hanesyddol ei gynnig a sut y mae modd gwneud defnydd effeithiol ohono.