A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa gyngor neu ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau cynllunio lleol ynghylch yr iaith neu ieithoedd a ddefnyddir wrth enwi datblygiadau tai, strydoedd, ac isadeiledd newydd?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus | Wedi'i ateb ar 24/07/2018
Gall Awdurdodau Cynllunio Lleol ddefnyddio polisïau Cynllun Datblygu Lleol a Chanllawiau Cynllunio Atodol i hybu’r defnydd o enwau Cymraeg ar gyfer datblygiadau newydd. Rhoddir y cyngor hwn yn Nodyn Cyngor Technegol 20, paragraff 4.1.2