Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant y buddsoddiad o £400,000 yn yr Hen Lyfrgell, ac os yw'n cael ei ystyried fel llwyddiant, beth mae'n ei weld fel prawf o'r llwyddiant hwnnw?
Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 25/07/2018
Roedd ymrwymiad o’r cychwyn i werthuso’r cynllun grant a’r canolfannau. Bydd y gwaith yma yn cael ei gomisiynu yn fuan. Fodd bynnag mae’r Llywodraeth wedi derbyn adroddiad cynnydd gan bob prosiect ariannwyd gan y cynllun er mwyn monitro cynnydd.