A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau fod modd i ddarpar aelodau o staff Llywodraeth Cymru ymgymryd ag unrhyw wiriadau diogelwch gofynnol sydd ar waith yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny?
Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 24/07/2018
Cyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Parhaol yw materion staffio. Rwyf wedi gofyn iddi ysgrifennu atoch i roi ichi’r wybodaeth y gofynnwch amdani.