WAQ76891 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw’n ystyried fod cyrff rheoleiddio proffesiynol gweithlu’r maes iechyd yn syrthio o fewn cwmpas y sector iechyd o safbwynt safonau’r Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 25/07/2018

Nid yw cyrff rheoleiddio ar gyfer y proffesiynau iechyd sy’n gweithredu ar draws Prydain wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 sy’n berthnasol i Fyrddau Iechyd Lleol, Cynghorau Iechyd Cymuned, Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru, ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru.