WAQ76887 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/07/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gymeradwyo’r cylch presennol o gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 09/08/2018

Mae un ar bymtheg CSGAu wedi eu cymeradwyo ar gyfer y cylch presennol.  Mae chwe awdurdod lleol yn parhau i aros yw CSGA gael eu cymeradwyo (Penybont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen).  Mae trafodaethau gyda’r awdurdodau lleol sy’n weddill yn dirwyn i ben a bydd cyhoeddiad yn fuan iawn.