WAQ76884 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/07/2018

Ymhellach i’r datganiad ysgrifenedig ar 17 Mai 2018, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cylch gorchwyl bwrdd cynghori annibynnol Llywodraeth Cymru ar gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 25/07/2018

Rôl Bwrdd Cynghori CSGA yw cynghori ar sut i gryfhau‘r seilwaith gynllunio strategol i gefnogi cynllunio addysg cyfrwng Gymraeg yn unol ag uchelgais Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

 

Eu prif swyddogaeth fydd  gweithredu yr 18 argymhellion a gyflwynwyd fel rhan o'r adolygiad brys o’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg a arweiniwyd gan Aled Roberts. Yn ogystal, bydd y Bwrdd yn ystyried materion a amlinellir yn Rhaglen Waith 2017-21 Cymraeg 2050, megis yr angen i adolygu diffiniadau a chategorïau ysgolion yng Nghymru yn ôl yr iaith a ddefnyddir fel cyfrwng addysgu, yn ogystal â'r angen i gryfhau cysylltiadau ag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, ysgolion, darparwyr blynyddoedd cynnar a'r sector ôl-16 i wella cyfraddau dilyniant rhwng cyfnodau gwahanol o addysg o fewn eu cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. 

 

Mae cyfnod  2 y broses, fel y nodwyd yn yr adolygiad, yn cefnogi sefydlu Bwrdd Cynghori a gyfarfu gyntaf ym Mai 2018. Rhagwelir y bydd mewn bodolaeth tan Mawrth 2019.

 

Un o flaenoriaethau'r Bwrdd Cynghori CSGA yw adolygu'r Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013,  gyda’r bwriad o ddiwygio y rheoliadau cyfredol er mwyn cryfhau y gyfundrefn gynllunio yn unol ag argymhellion yr adolygiad. Bydd y Bwrdd yn cyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2019 yn adrodd ar y gwaith yn ystod y cyfnod hwn.