A wnaiff Comisiwn y Cynulliad gadarnhau fod modd i ddarpar aelodau o staff y Cynulliad ymgymryd ag unrhyw wiriadau diogelwch gofynnol sydd ar waith yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny?
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydymffurfio â chanllawiau Fetio Diogelwch Cenedlaethol y DU. Uned Fetio Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am wiriadau sylfaenol o ran personél, a gellir cwblhau’r gwiriadau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ni ellir cwblhau gwiriadau diogelwch cenedlaethol lefel uwch, a wneir gan wasanaeth fetio diogelwch y DU, drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd.
Mae gwasanaeth fetio diogelwch y Deyrnas Unedig yn ymwybodol o’n gofyniad i ymgeiswyr allu cwblhau’r broses wirio hon drwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn parhau i godi’r mater hwn â’r gwasanaeth.