A wnaiff Comisiwn y Cynulliad gadarnhau a) pa wiriadau diogelwch (er enghraifft gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gwiriad fetio ac ati) sydd ar waith ar gyfer darpar aelodau staff y Cynulliad a b) pa sefydliad neu sefydliadau sy’n gyfrifol am weinyddu’r gwiriadau hynny?
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydymffurfio â chanllawiau Fetio Diogelwch Cenedlaethol y DU. Uned Fetio Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n gyfrifol am wiriadau sylfaenol o ran personél. Fodd bynnag, caiff gwiriadau diogelwch cenedlaethol lefel uwch eu cyfeirio at wasanaeth fetio diogelwch y DU yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ar hyn o bryd, nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal gwiriadau gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd hyn yn newid yng nghyd-destun y Senedd Ieuenctid ac mae trafodaethau’n parhau ar y mater hwn.