A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu gwybodaeth ynglŷn â faint o athrawon sydd wedi eu hatal o’u gwaith yn dilyn ymyrraeth gan pob consortia addysg?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 05/06/2018
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru (Canllawiau i ysgolion ac awdurdodau lleol ar weithredu gweithdrefnau effeithiol i ddisgyblu a diswyddo staff - cylchlythyr 002/2013) yn darparu canllawiau ynghylch atal staff o’u gwaith. Rhaid hysbysu’r awdurdod lleol pan fo ysgol wedi atal aelod o staff.
Nid yw Llywodraeth Cymru’n cadw gwybodaeth ynghylch nifer yr athrawon sydd wedi cael eu hatal nac ynghylch y rhesymau dros eu hatal.