WAQ76580 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/05/2018

A yw Llywodraeth Cymru wedi comisiynu unrhyw waith neu wedi derbyn unrhyw gyngor arbenigol sy'n awgrymu y dylid tynnu gorsaf Castell-nedd oddi ar y brif linell rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 05/06/2018

Mae safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Gorsaf Castell-nedd eisoes wedi’i nodi’n glir. Credaf fod angen gwarchod a hefyd wella’r orsaf hon a’i gwasanaethau.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi comisiynu Achosion Rhaglen Amlinellol a Strategol er mwyn datblygu’r achos o blaid buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru. Bydd hi’n bwysig sicrhau bod y gwaith hwn yn cyd-fynd â gwaith datblygu Metro Bae Abertawe.

 

Mae’r gwaith yma’n cynnwys pennu rhestr hir o opsiynau ar gyfer gwella amseroedd teithio ar drenau ar gyfer cymudwyr a phobl sy’n teithio’n bell.

 

Bydd y rhain yn cynnwys ystyried sut y gall y seilwaith gael ei wella er mwyn sicrhau bod modd elwa i’r eithaf ar berfformiad a gallu trenau newydd a chyflym Inter-City.

 

Er enghraifft, nid yw’r cyflymder mwyaf a ganiateir bron byth yn cael ei gyrraedd ar y daith rhwng Llundain a De Cymru, a byth yng Nghymru. Deallwn y gallai’r trenau deithio lawer yn gyflymach na’r terfyn presennol ond nad yw’r dechnoleg arwyddion yn caniatáu hynny.

 

Mae angen ystyried yr holl gyfyngiadau sy’n amharu ar amseroedd teithio. Rhaid canolbwyntio ar sicrhau bod modd i bob teithiwr, gan gynnwys y rhai sy’n defnyddio gorsaf Castell-nedd, elwa ar welliannau o ran cysylltedd ac amseroedd teithio.