Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gronfeydd wrthgefn tun Cymru ar gyfer eu defnyddio mewn technoleg ceir trydan?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn gyfrifol am gynllunio’r defnydd o fwynau yng Nghymru, a chafodd Arolwg Daearegol Prydain ei gomisiynu i gynhyrchu Mapiau Adnoddau Mwynau i Gymru yn 2009. Roedd y mapiau hyn yn dangos natur wasgaredig a phrin mwynau metalig yng Nghymru. Mae’n bosibl eu gweld ar y ddolen ganlynol:
http://www.bgs.ac.uk/mineralsuk/planning/resource.html
Mae ehangu technolegau newydd a ‘gwyrdd’ yn cynyddu’r galw am ystod o fetalau nad ydynt wedi’u defnyddio’n aml yn y gorffennol, gan gynnwys cobalt, prinfwynau, lithiwm, indiwm a’r grŵp o fetalau platinwm. Mae Menter Deunyddiau Crai yr UE a Rhaglen Diogelu Cyflenwad Adnoddau Mwynol y DU yn ceisio sicrhau bod deunyddiau ar gael ar y farchnad ryngwladol. Maent hefyd yn monitro y deunyddiau prin ymlaen llaw, ble y gallai prinder yn y cyflenwad gael effaith fawr. Mae hyn yn cynnwys deunyddiau crai hanfodol megis prinfwynau sy’n cael eu defnyddio mewn tyrbinau gwynt ac ym mheiriannau ceir trydan.