WAQ76469 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/05/2018

A nwiaff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynnluniau gwella’r A547 o Ruddlan i Abergele, a adnabyddir yn lleol fel yr Abergele Straits?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 16/05/2018

Derbyniodd Cyngor Sir Ddinbych gyllid drwy’r Grant Diogelwch ar y Ffyrdd yn 2016/17 at ddiben cynnal astudiaeth ddichonoldeb o ran opsiynau ar gyfer gwella diogelwch a chyflwr y gerbytffordd ar yr A547 rhwng Rhuddlan ac Abergele. Nododd y Cyngor bryd hynny na fyddai cynllun posibl a allai gostio dros £12 miliwn yn fforddiadwy o ystyried y cyllidebau a ragwelwyd ar gyfer y Grant Diogelwch ar y Ffyrdd. Am y rheswm hwn nid yw’r Cyngor wedi cyflwyno cais am gyllid ar gyfer cyflawni’r cynllun.