Pa gamau y mae Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i helpu staff i roi'r gorau i ysmygu?
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweithredu nifer o fesurau i helpu staff i roi'r gorau i ysmygu, gan gynnwys:
· cynnal diwrnodau llesiant achlysurol ar gyfer yr holl staff, yng nghwmni 'Dim Smygu Cymru' sy'n cynnig help ac arweiniad ynghyd â chwrs o sesiynau am ddim i helpu ysmygwyr i roi'r gorau iddi;
· mae Nyrs Iechyd Galwedigaethol y Comisiwn ar gael i roi cymorth ac arweiniad uniongyrchol i'r rheini sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu, a gall gyfeirio unigolion at gymorth pellach drwy gyrff allanol;
· mae mewnrwyd y Comisiwn yn cynnwys gwybodaeth am ysmygu, gan gynnwys y manteision i iechyd o roi'r gorau i ysmygu, y manteision o ran costau, a lincs i'r fenter '10 Minutes to Change your Life' gan y British Heart Foundation; a
· hyrwyddo Diwrnod Dim Smygu yn achlysurol, ac yn y dyfodol byddwn yn ei ddefnyddio fel cyfle i estyn gwahoddiad i sefydliadau sy'n gweithio yn y maes.