A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar gau’r A40 rhwng Llanwrda a Llanymddyfri a’i effaith ar deithwyr?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 04/05/2018
Roedd yr A40 rhwng Llanymddyfri a Llanwrda ar gau ar 18 Ebrill oherwydd bod y cwlfert dŵr wedi chwalu’n rhannol. Ar 25 Ebrill, agorwyd y ffordd yn rhannol a chafwyd gwared ar y llwybr gwyro drwy Langadog. Bydd yr arwyddion traffig yn parhau yn weithredol i ganiatáu i’r gwaith gael ei gwblhau. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith hwnnw yn para rhyw bythefnos.