Faint o deithiau trên dosbarth cyntaf a wnaed gan staff Comisiwn y Cynulliad yn 2017-18 a beth oedd manylion a chost pob un ohonynt?
Dim ond pan mae’n angenrheidiol ar gyfer gwaith y gellir teithio mewn cerbyd dosbarth cyntaf a hynny dim ond pan gaiff y cais ei gefnogi gan swyddog awdurdodi. Gall hyn fod am y rhesymau a ganlyn:
· pan fydd angen i staff weithio ar fusnes swyddogol wrth deithio, a byddai teithio dosbarth cyntaf yn hwyluso hyn;
· pan fydd staff yn teithio am resymau gwaith gyda rhywun nad yw’n gyflogai Comisiwn y Cynulliad (er enghraifft, Aelod Cynulliad) a bod yr unigolyn hwnnw yn teithio mewn dosbarth uwch; neu
· pan fo cost tocyn dosbarth cyntaf unffordd o fewn 10 y cant o bris tocyn unffordd amser tawel neu docyn unffordd dosbarth safonol ar gyfer teithio unrhyw bryd (yn dibynnu ar yr amser teithio).
At ei gilydd, cafodd pedair taith dosbarth cyntaf/dosbarth busnes eu hawdurdodi yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18, gan gynnwys:
- Tair siwrnai pan aeth swyddogion gyda’r Llywydd ar fusnes swyddogol, gan gostio cyfanswm o £331.50.
- Un daith gan ddau gyfieithydd ac un cyfieithydd ar y pryd i gynorthwyo’r Pwyllgor Cyllid mewn cyfarfod ym Miwmares ar fore 13 Gorffennaf ac mewn cyfarfod â rhanddeiliaid yn y prynhawn, cyn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym Mhrifysgol Bangor ddydd Gwener 14 Gorffennaf 2017. Drwy deithio mewn cerbyd dosbarth cyntaf roedd staff yn gallu gweithio yn ystod y daith. Roedd y daith yn ôl brynhawn dydd Gwener 14 Gorffennaf mewn cerbyd dosbarth safonol. Cyfanswm y gost oedd £225.