A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r amserlen ar gyfer cyhoeddi safonau ar gyfer y sectorau canlynol: a) cymdeithasau tai; b) dŵr; c) cwmnïau post; d) bysiau. trenau a rheilffyrdd; e) nwy a thrydan; a f) telathrebu?
Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 24/04/2018
Rydw i’n ystyried sut y byddwn yn paratoi safonau yn y dyfodol fel rhan o gyd-destun ehangach Bil arfaethedig y Gymraeg a byddaf yn diweddaru’r Cynulliad maes o law.