WAQ76361 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/04/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi contractau gofal sylfaenol neu gytundeb telerau gwasanaeth rhwng darparwyr gofal sylfaenol a byrddau iechyd lleol, a fydd yn gosod dyletswyddau i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, y cyfeirir atynt ar dudalen 10 memorandwm esboniadol Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 25/04/2018

Cynigir y caiff dyletswyddau yn ymwneud â'r Gymraeg eu gosod ar ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol, sef Ymarferwyr Cyffredinol, Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol, Fferyllwyr Cymunedol ac Optometryddion trwy eu contractau gofal sylfaenol neu delerau gwasanaeth.

 

Y dyletswyddau arfaethedig i'w gosod ar gontractwyr yw –

 

Bydd y contractwr:

 

1)    yn darparu gwybodaeth i'r Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch pa wasanaethau gofal sylfaenol y mae'r contractwr yn gallu eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg;

2)    yn manteisio ar y gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn  darparu arwydd dwyieithog wrth godi arwydd mewn cysylltiad â'r gwasanaethau y mae'n eu darparu ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol;

3)    yn rhoi i gleifion ac aelodau o'r cyhoedd unrhyw fersiwn Gymraeg o ddogfen a'r ffurflenni a ddarperir i'r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

4)    yn annog eu staff Cymraeg eu hiaith i wisgo bathodyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol sy'n cyfleu bod y sawl sy'n ei wisgo yn gallu siarad Cymraeg;

5)    hybu a chynnig cyfleoedd i'w staff fynychu cyrsiau hyfforddiant a digwyddiadau sy'n cael eu trefnu gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a threfnu bod y staff yn cael gwybodaeth a ddarperir gan eu Bwrdd Iechyd Lleol, i feithrin eu hymwybyddiaeth o'r Gymraeg a sut i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle; ac

6)    yn hybu recordio'r cynnig rhagweithiol a dewis iaith y claf

Nid oes unrhyw gyfarfodydd penodol wedi'u cynnal â'r darparwyr gofal annibynnol i drafod yn benodol Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7). Mae trafodaethau cychwynnol wedi'u cynnal â Phwyllgor Meddygon Teulu (Cymru), sef y corff sy'n cynrychioli Ymarferwyr Cyffredinol ac mae wedi bod yn gefnogol ac yn cytuno â'r dyletswyddau a roddir ar gontractwyr annibynnol Ymarferwyr Cyffredinol.

Cynhelir trafodaethau pellach  â darparwyr gofal sylfaenol annibynnol dros y misoedd nesaf ynghylch y diwygiadau y mae eu hangen i'r rheoliadau canlynol i gynnwys y chwe dyletswydd uchod:

 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013
 

Rhagwelir y daw'r diwygiadau i'r rheoliadau uchod i rym ar 1 Ebrill 2019 a byddwn yn gweithio gyda'r Byrddau Iechyd a darparwyr gofal ar gyfathrebu'r dyletswyddau y cytunir arnynt.