WAQ76358 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/04/2018

Yn dilyn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 19 Mawrth 2018, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi manylion y gwelliannau mewn darpariaeth gofal sylfaenol yn Gymraeg y disgwylir ganddo yn sgil y diwygiadau i gontract y gwasanaethau meddygol cyffredinol ar gyfer 2018/2019?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 25/04/2018

Fel rhan o gytundeb Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer 2018/19 fe nodir llinell sylfaen o ddarpariaeth o ran y Gymraeg ar lefel clwstwr a fydd yn rhoi dealltwriaeth well o'r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

Cytunodd Pwyllgor Meddygon Teulu (Cymru), sef y corff sy'n cynrychioli Ymarferwyr Cyffredinol, hefyd â'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod ar Ymarferwyr Cyffredinol o ran y Gymraeg o'r dyddiad arfaethedig o 1 Ebrill 2019.  Caiff hyn ei wneud drwy gyfrwng y rheoliadau perthnasol a roddwyd ichi yn fy ymateb i WAQ76360, WAQ76361 a WAQ76362.