WAQ75886 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2018

Beth oedd y broses recriwtio ac apwyntio ar gyfer swydd rheolwr gyfawrwyddwr interim Trafnidaeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 20/02/2018

Cafodd Mr Nick Gregg ei benodi’n Gyfarwyddwr Anweithredol annibynnol ar Trafnidiaeth Cymru ar ôl i broses recriwtio gael ei chynnal yn unol â’r drefn penodiadau cyhoeddus. Ar ôl hynny, penodais Mr Gregg yn Gadeirydd Interim ar Fwrdd Trafnidiaeth Cymru, am gyfnod o hyd at 12 mis, ar y sail y bydd proses recriwtio i benodi Cadeirydd wedi’i chwblhau cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben. Nid oes swydd Rheolwr Gyfarwyddwr Interim yn strwythur sefydliadol Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd.