WAQ75867 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa mewn perthynas â brechiadau hepatitis B yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 20/02/2018

Oherwydd problemau cynhyrchu, bu prinder byd-eang o’r brechlyn hepatitis B ers yr haf diwethaf, ac mae hynny wedi cael effaith ddifrifol ar y cyflenwad yn y DU. Er bod y sefyllfa’n gwella, mae’n debygol y bydd cyfyngiadau ar y cyflenwad yn parhau yn 2018. Er mwyn sicrhau bod brechiadau ar gael i’r unigolion hynny sydd yn y perygl mwyaf difrifol ac uniongyrchol o ddod i gysylltiad â hepatitis B, rhoddwyd canllawiau i GIG Cymru ar gyfer blaenoriaethu’r defnydd o’r stoc sydd ar gael. Diogelwyd y cyflenwad o’r brechlyn pediatrig er mwyn sicrhau y gellir brechu babanod sy’n cael eu geni i famau sydd wedi eu heintio â hepatitis B. Nid yw’r prinder yn effeithio ar y cyflenwadau o’r brechlyn hexavalent newydd “6 mewn 1”, sy’n cynnwys y brechlyn hepatitis B, sy’n rhan o’r rhaglen arferol ar gyfer plant ers 1 Awst 2017.