Faint o arian, gan gynnwys unrhyw gymorth a ddarperir mewn ffyrdd eraill, y mae Comisiwn y Cynulliad, gan gynnwys y Bwrdd Taliadau a chyrff cysylltiedig eraill, wedi'i ddarparu i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ers dechrau'r pedwerydd Cynulliad, gan ddarparu dadansoddiad fesul blwyddyn a, lle y bo'n bosibl, fesul eitem/trafodiadau?
Nid oes dim grant nac arian arall wedi’i ddarparu i Ganolfan Llywodraethiant Cymru gan Gomisiwn y Cynulliad na chyrff cysylltiedig eraill yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r Bwrdd Taliadau yn annibynnol ar Gomisiwn y Cynulliad. Ar ôl ymgynghori â’r Bwrdd, gallaf gadarnhau nad yw yntau ychwaith wedi darparu unrhyw grant na chyllid iddo.
Ceir manylion isod am y gefnogaeth ‘o fath’ a ddarparwyd i Ganolfan Llywodraethiant Cymru a gwaith a gomisiynwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn ystod y cyfnod hwn.
Hefyd wedi’u cynnwys i gael darlun cyflawn, mae manylion y gwaith a ddarparwyd o dan gontract i Gomisiwn y Cynulliad, nad yw’n cael ei ystyried yn gyllid.
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Yn 2010, cytunodd Comisiwn y Cynulliad a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Pwrpas y Memorandwm yw darparu budd i’r ddwy ochr, sef i Ganolfan Llywodraethiant Cymru a Chomisiwn y Cynulliad, gan barchu ei hannibyniaeth academaidd ar yr un pryd, sy’n:
Cyfrannu at gyflawni swyddogaethau’r Comisiwn h.y. darpariaeth eiddo, staff a gwasanaethau i’r Cynulliad, a hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru.
Cyfrannu at waith Canolfan Llywodraethiant Cymru fel canolfan ragoriaeth academaidd ac ymchwil.
Yn unol â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn darparu:
Cyfres o ddigwyddiadau rheolaidd, gan ddefnyddio arbenigwyr academaidd i amlygu agweddau gwahanol ar ddadleuon polisi cyfoes. Mae hyn wedi cynnwys, er enghraifft:
- Darlith gyhoeddus gan Syr Julian King, Comisiynydd Ewropeaidd yr Undeb Ddiogelwch ar agenda’r Undeb Ewropeaidd ar ddiogelwch.
- Refferendwm yr UE: Flwyddyn yn Ddiweddarach. Digwyddiad cyhoeddus a oedd yn edrych yn fanwl ar rai o’r materion cyfreithiol, gwleidyddol ac ariannol sy’n gysylltiedig â Brexit.
- Darlith gyhoeddus a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Thomas o Cwmgiedd, cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, ar Orffennol a Dyfodol y Gyfraith yng Nghymru.
Rhaglen o thua chwe sesiwn 1 awr ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad bob blwyddyn. Mae sesiynau ychwanegol wedi’u hanelu at Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad yn cael eu treialu. Mae’r sesiynau’n rhan o’r cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael i staff er mwyn helpu i gynyddu’r ddealltwriaeth o bynciau allweddol sy’n angenrheidiol iddynt eu cael yn eu rolau, yn enwedig mewn perthynas â newid cyfansoddiadol, er enghraifft, pwerau trethu newydd y Cynulliad.
Yn gyfnewid am ddarparu’r gwasanaethau hyn, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn defnyddio lle ar gyfer swyddfeydd yn y Pierhead. O 2010 hyd at hydref 2017, roedd y swyddfa yn cynnwys dwy swyddfa fach a swyddfa agored fwy a man cyfarfod. Yn hydref 2017, rhoddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru y gorau i’r gofod mwy. Mae’n parhau i ddefnyddio’r ddwy swyddfa fach.
Mae gan Gomisiwn y Cynulliad brydles hir ar y Pierhead, ac nid oes rhent yn daladwy o dan y telerau. Ni chodir tâl i Ganolfan Llywodraethiant Cymru am ddefnyddio’r swyddfeydd. Nid oedd y swyddfeydd yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben arall ar yr adeg y llofnodwyd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Oherwydd y cyfyngiadau o ran mynediad cyhoeddus ac ansawdd y llety, ni ellid yn hawdd ddefnyddio’r gofod at ddiben arall.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, fel sefydliadau eraill, yn gallu defnyddio ystâd y Cynulliad i gynnal cynadleddau, seminarau, darlithoedd a digwyddiadau. Rhaid i bob digwyddiad o’r fath gael ei noddi gan Aelod o’r Cynulliad, a rhaid iddo gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol y Comisiwn.
Yn unol â’r weledigaeth a amlinellwyd yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi manteisio ar arbenigedd prifysgolion eraill Cymru a thu hwnt i gyflwyno’r fenter, er mwyn ehangu a dyfnhau’r ddadl ar bolisi yn ein sefydliadau llywodraeth datganoledig ac yn gysylltiedig â’r sefydliadau hynny.
Deddfwriaeth Cymru Ar-lein
Datblygodd Prifysgol Caerdydd wefan Deddfwriaeth Cymru Ar-lein ym 1999 i wella hygyrchedd y cyhoedd at wybodaeth gywir ynghylch y gyfraith yng Nghymru. Ar ôl i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ddod i rym, ac yr enillodd y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol, yn 2008 cytunodd Comisiwn y Cynulliad mewn egwyddor i gyfrannu £50,000 y flwyddyn ar gyfer gwefan Deddfwriaeth Cymru Ar-lein. Roedd y cyfraniad yn benodol yn amodol ar gynnydd boddhaol o ran nifer o agweddau, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth, dull dwyieithog ac ehangu i gynnwys Biliau’r Cynulliad.
Ym mis Chwefror 2012, cytunodd y Comisiwn i roi’r gorau i’w gefnogaeth ariannol i Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein.
Roedd y cyfraniadau i Ddeddfwriaeth Cymru Ar-lein ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad, ar 6 Mai 2011, yn gyfanswm o £45,833 yn 2011-12 a £12,500 yn 2012-13. Roedd y taliad terfynol a wnaed yn cwmpasu’r cyfnod hyd at 30 Mehefin 2012.
Gwaith a ddarparwyd o dan gontract gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru
Caffaelwyd y darnau o waith canlynol yn unol â pholisïau a phrosesau caffael y Cynulliad.
- Yn 2017-18, cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ymarfer caffael agored i gomisiynu gwaith ymchwil ar y rhwystrau sy’n atal unigolion rhag sefyll i gael eu hethol i’r Cynulliad a’r cymhellion iddynt wneud hynny. Llwyddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru yn eu cynnig am y gwaith. Nid yw’r gwaith wedi’i gwblhau eto, ond amcangyfrifir mai’r gost fydd £28,895.50 (ynghyd â TAW).
- Yn 2017-18, comisiynodd Panel Arbenigol Diwygio Etholiadol y Cynulliad yr Athro Roger Scully a Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru i ymgymryd â’r dasg o ddarlunio canlyniadau etholiadol systemau etholiadol posibl, er mwyn llywio ei waith. Cost y gwaith oedd £5,250.