WAQ75809 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i hyfforddi’r gweithlu addysg er mwyn cyrraedd y targedau sydd wedi eu gosod yn Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr – Rhaglen waith 2017–21 i gynyddu’r nifer o athrawon yng Nghymru sy’n gallu addysgu Cymraeg neu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2021?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 07/02/2018

Mae Y Gymraeg mewn Addysg: Cynllun Gweithredu 2017-21, a gyhoeddais fel Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ym mis Rhagfyr, yn gosod y llwybr ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a’r Gymraeg fel pwnc am y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl, Cynllun Gweithredu 2017-21

 

Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio nifer digonol o athrawon cyfrwng Cymraeg ar gyfer y sector cynradd, ac os daliwn ati fel hyn, dylem gyrraedd y targed erbyn 2021. Wedi dweud hyn, os ydym am gyrraedd ein targedau o ran athrawon uwchradd, mae’n rhaid i ni gynyddu lefelau recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg, bob blwyddyn, er mwyn cyrraedd y targed erbyn 2021.

 

Yn ddiweddar, cyhoeddais gymhelliant cyfrwng Cymraeg, a fyddai’n cael ei anelu at ddarpar-athrawon uwchradd sy’n hyfforddi i addysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r cymhelliant o £5,000, yn ategu’r trefniadau presennol, a gobeithio y bydd yn arwain at fwy o athrawon uwchradd a fydd yn gallu addysgu’r Gymraeg a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Drwy’r ymgyrch Darganfod Addysgu, rydym yn cydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hybu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r cymhelliant i israddedigion, gyda golwg ar gynyddu’r nifer sy’n hyfforddi yn y dyfodol.

 

Fodd bynnag, nid dyma’r unig ffynhonnell a fydd yn arwain at gynnydd yn nifer yr athrawon. Yn 2017/18, mae 20 o gyfleoedd i athrawon-raddedigion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd swyddogion yn cydweithio â’r consortia i geisio cynyddu nifer y lleoliadau yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn cydweithio â’r consortia rhanbarthol i ddatblygu a darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys y Cynllun Sabothol, er mwyn datblygu dysgu ac addysgu effeithiol ar gyfer y Gymraeg fel pwnc a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn hefyd yn ystyried sut i annog mwy o athrawon i addysgu drwy’r Gymraeg erbyn 2021.