WAQ75790 (w) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a gadwyd neu a gedwir y wybodaeth personol amdana i y cyfeiriodd ati yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ionawr ar unrhyw fformat electronig?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 07/02/2018

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cysylltu’n rheolaidd â’r byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG er mwyn gallu briffio’r Gweinidogion i gyflawni eu rolau. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn ein galluogi, er enghraifft, i ymateb i ohebiaeth gan ACau a’r cyhoedd, i sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth ar gyfer digwyddiadau ac ymweliadau ac ar gyfer bod yn rhan o broses graffu’r Cynulliad.

 

Ar 26 Ionawr 2018, cysylltodd swyddogion Llywodraeth Cymru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar ôl gweld y cwestiwn llafar roeddech chi wedi’i gyflwyno ar gyfer dydd Mawrth diwethaf. Yn yr achos hwn, cysylltwyd â’r bwrdd iechyd oherwydd bod swyddogion wedi nodi’r datganiad y gwnaethoch ei gyhoeddi ar y cyd â Jonathan Edwards AS am raglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol y bwrdd iechyd. Felly, aethant ati i ofyn am sicrwydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch sut yr oedd yn ymwneud â gwleidyddion lleol ar y mater hwn. Cyflwynwyd y cais hwn gan swyddogion fel rhan o’r drefn arferol a sefydledig ar gyfer briffio’r Gweinidogion.

 

Mae’r wybodaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol wedi’i chadw ar hyn o bryd ar system e-byst Llywodraeth Cymru, ac roedd crynodeb ohoni yn rhan o’r wybodaeth gefndir a gefais gan swyddogion.