Yn y ddwy flynedd diwethaf, faint o staff sydd wedi'u cyflogi ar gontractau dim oriau gan Gomisiwn y Cynulliad, a faint ohonynt sydd ar gontractau o'r fath ar hyn o bryd?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 31/01/2018
Nid yw Comisiwn y Cynulliad yn cyflogi staff ar gontractau dim oriau er mwyn sicrhau ein bod yn gwarantu lefel ofynnol o waith ac incwm i aelodau o staff.