Yn dilyn y datganiad ar 17 Ionawr 2018 yn y Cyfarfod Llawn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion unrhyw gwmnïau masnachol y mae gan Llywodraeth Cymru gyfranddaliadau ynddynt?
O fewn fy mhortffolio mae gan Lywodraeth Cymru gyfranddaliadau yn y cwmnïau masnachol canlynol:
- Banc Datblygu Cymru Plc (is-gwmni y mae’n berchen ar y cyfan ohono)
- Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf (is-gwmni y mae’n berchen ar y cyfan ohono)
- Canolfan Ryngwladol Confensiynau Cymru (menter ar y cyd – yn berchen ar 50% ohono)
- TVR Automotive Ltd (ychydig o fuddiant)
- BTG Plc (ychydig o fuddiant)
Yn ogystal, mae gan Lywodraeth Cymru fuddsoddiadau sy’n cynrychioli ychydig o fuddiant mewn saith o gwmnïau newydd sydd wedi derbyn cyllid drwy’r rhaglen arian sbarduno Alacrity. Y cwmnïau hyn yw Codeherent, Culturevate, Enjovia, Hut 6 Security, Learnium, Persona a Talkative.