WAQ75526 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion yr holl gwynion a wnaed y llynedd o dan y Cod Gweinidogol ei fod wedi camarwain y Cynulliad, gan gynnwys enw'r achwynydd, cynnwys y camarwain honedig a'r rheswm dros y dyfarniad ymhob achos?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 12/01/2018

Roedd tair cwyn o’r fath. Chi wnaeth y ddwy gyntaf ac fe ymatebais ar 18 Gorffennaf 2017 a 3 Awst 2017. Gwnaed y drydedd gan Aelod Cynulliad arall, ac roedd yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol Caerdydd, lobïo  a Chronfa Buddsoddi Cymru Mewn Adfywio – deuthum i’r casgliad nad oedd y Cod Gweinidogol wedi’i dorri ac ymatebais yn unol â hynny.