WAQ75523 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2018

A yw'n bolisi gan Lywodraeth Cymru i farchnata Cymru fel tywysogaeth?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 12/01/2018

Cytunodd y Cabinet yn ddiweddar ar Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, ac fe’i cyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn ddiweddar. Mae’n amlinellu ffordd gynhwysfawr a fydd yn cael ei defnyddio ar draws y Llywodraeth o frandio, marchnata a hyrwyddo Cymru dros y blynyddoedd nesaf fel cenedl falch drwy:

Adeiladu ar y brand unedig ar gyfer Cymru fel gwlad i fuddsoddi, gweithio, byw ac astudio ynddi ac i ymweld â hi.
Datblygu brand digidol cadarn drwy brosiect Porth Digidol Cymru, gan hoelio sylw yn benodol ar wales.com i uno gwefannau.
Cynnal ymgyrchoedd twristiaeth a fydd yn chwifio’r faner dros Gymru yn y DU ac mewn gwledydd eraill.
Cystadlu i gynnal digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr i adeiladu ar broffil Cymru drwy’r diwydiant digwyddiadau byd-eang.
Cyflwyno’r hyn sydd gennym i’w gynnig yn ddiwylliannol er mwyn helpu i hyrwyddo buddiannau economaidd a masnachol Cymru ac i wella ein delwedd dramor.

Mae’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi hefyd yn nodi cynllun cynhwysfawr i flaenoriaethu allforion a masnach drwy:

Hyrwyddo allforion drwy ymgyrch farchnata newydd, gan ddefnyddio ein hallforwyr llwyddiannus fel enghreifftiau.
Gweithio gyda busnesau i oresgyn yr heriau yn sgil ymadael â’r UE.
Gweithio gyda grwpiau o gwmnïau, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, i rannu arferion gorau ac i elwa ar gryfderau thematig.
Rhoi mynediad i wybodaeth allweddol am allforio.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys yr Adran Masnach Ryngwladol a’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad i helpu ein hallforwyr i ddod o hyd i farchnadoedd newydd drwy:

Ddarparu cymorth sydd wedi’i deilwra’n arbennig i helpu allforwyr i gael mynediad i’r farchnad, gan gynnwys sut y mae nodi cwsmeriaid posibl a sut y dylid cyflwyno eu hunain iddynt.
Hyrwyddo cyfleoedd yn eu marchnadoedd targed.
Helpu busnesau i ymweld â’u marchnadoedd targed yn unigol neu fel grŵp.
Hyrwyddo Cymru ac allforwyr Cymru mewn sioeau masnach rhyngwladol mewn gwledydd eraill.
 

Mae’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi hefyd yn egluro y byddwn yn ehangu ein hôl-troed rhyngwladol, a bydd y gwaith hwn yn seiliedig ar asesiad o gyfleoedd economaidd i hyrwyddo busnesau Cymru. Yn 2018, byddwn yn agor swyddfeydd yng Nghanada, yr Almaen, Ffrainc a Qatar. Byddwn yn adolygu ymhellach y marchnadoedd presennol a rhai newydd, ac yn dyrannu adnoddau i’r mannau hynny lle y mae cyfleoedd da yn amlwg.

Cewch weld copi o’r cynllun cytunedig yma:

http://gov.wales/docs/det/publications/171213-economic-action-plan-cy.pdf