WAQ75507 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/01/2018

Ymhellach i WAQ75426, mewn perthynas â chefnogaeth a roddir i fusnesau ar hyn o bryd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud beth yw'r ffynhonnell ar gyfer yr amcangyfrif hwn ac a fydd Llywodraeth Cymru yn barod i ddiweddaru'r ffigwr yma yn flynydddol er mwyn asesu cynnydd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 12/01/2018

Rydym yn defnyddio offeryn dadansoddi gwariant o’r enw Atamis i gasglu data ar wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bwriadwn ddiweddaru’r ffigur yn rheolaidd, ond bydd hyn yn dibynnu ar ganlyniadau’r adolygiad caffael sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd, fel y cyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 21 Medi 2017.