Pa gynlluniau sydd gyda Llywodraeth ar gyfer Glastir Uwch ar ôl 2020?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 21/12/2017
Bydd y cylch olaf o Gontractau Glastir Uwch yn cychwyn ar 1 Ionawr 2019 ac mae disgwyl iddynt ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Caiff y contractau hyn ynghyd â chontractau presennol eraill eu hanrhydeddu hyd eu dyddiad terfynu gan fod Trysorlys y DU wedi ymrwymo i ddarparu cyllid yn lle cyllid yr UE am weddill oes y contractau.