WAQ75466 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddisgrifio maint cynllun hydro cymunedol a fydd yn elwa o gymorth o dan gynllun i dorri trethi ar gyfer busnesau bach?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid | Wedi'i ateb ar 02/01/2018

Rwyf wedi gwneud darpariaeth o £0.2miliwn yn y Gyllideb Derfynol i gefnogi cynlluniau ynni cymunedol yn 2018-19. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn datblygu manylion am sut y gellir defnyddio’r arian hwn orau i gefnogi'r sector. Cytunwyd ar hyn fel rhan o'r trafodaethau ar y gyllideb â Phlaid Cymru.