WAQ75457 (w) Wedi’i gyflwyno ar 14/12/2017

Ymhellach i WAQ75334, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud lle pwy ydyw o fewn Llywodraeth Cymru i wneud sylw ynghylch a dderbyniwyd cwyn gan Leighton Andrews ym mis Tachwedd 2014?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 03/01/2018

Pe bai cwyn yn dod i law am Gynghorydd Arbennig byddwn yn disgwyl bod mewn sefyllfa i wneud sylw. Pe bai cwyn yn dod i law am aelod o staff nad yw’n Gynghorydd Arbennig, byddai hynny’n fater i’r Ysgrifennydd Parhaol.