WAQ75418 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/12/2017

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi rhestr o'r holl fyrddau a chyrff cynghorol a gaiff eu diddymu yn sgil cyhoeddi y cynllun gweithredu economaidd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 02/01/2018

Fel rhan o’r adolygiad o gyrff cynghorol yn fy mhortffolio, mae trafodaethau wedi’u cynnal gyda chadeiryddion ac aelodau amryw o grwpiau gan gynnwys Paneli Sector a Byrddau Ardaloedd Menter. Mae’r trafodaethau hyn yn parhau a byddant yn arwain at nifer o grwpiau yn dirwyn i ben, yn newid eu ffurf neu’n parhau, yn unol â chanlyniadau’r adolygiad. Bydd nifer o grwpiau, gan gynnwys Paneli Sector, yn cael eu disodli gan Fwrdd Cynghori Gweinidogol trosfwaol, sef grŵp tynn o unigolion , ac iddo ffocws, a fydd yn darparu cyngor strategol ar ddatblygu economaidd. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach am hyn ac am y strwythur cynghori ehangach a fydd yn ei ategu, yn gynnar yn 2018.