WAQ75417 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/12/2017

Pryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ddyddiad cychwyn adeiladu cynllun ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 21/12/2017

Yn dilyn yr Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus, derbyniwyd Adroddiad yr Arolygydd ar 18 Hydref. Rydym wrthi’n ystyried casgliadau ac argymhellion yr Arolygydd a hefyd yr holl faterion y tynnwyd sylw atynt cyn i ni wneud penderfyniad terfynol ynghylch y cynllun.

Mae’n anochel fod pryderon yn cael eu mynegi ynghylch cynlluniau ffordd o’r math hwn, ac yn arbennig bryderon gan bobl y bydd y gwaith yn effeithio’n uniongyrchol ar eu heiddo. Bydd y pryderon hyn yn cael eu hystyried yn fanwl fel rhan o’r gwaith craffu yn yr Ymchwiliad Lleol. Er budd cyfiawnder naturiol ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r broses briodol mae’n allweddol fod y pryderon hyn yn cael eu hystyried yn ofalus fel bod gwrandawiad teg i bawb. Ni all y gwaith hwn gael ei wneud yn gyflym ac mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau’n broses drylwyr a bod yr holl ffactorau perthnasol yn cael eu hystyried yn briodol ac yn ofalus. 

Rwy’n rhagweld y bydd modd i mi wneud penderfyniad ynghylch sut y bydd y cynllun yn symud ymlaen yn y flwyddyn newydd.