WAQ75305 (w) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2017

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau beth yw’r drefn y dylai Gweinidog ei dilyn os bydd y Gweinidog hwnnw, neu swyddogion yn gweithredu ar ran y Gweinidog, am ystyried cynnig polisi a fyddai’n addasu cyfrifoldebau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 13/12/2017

Byddai gofyn i’r Gweinidogion a’r swyddogion sy’n gweithio ar eu rhan gynnal ymgynghoriad priodol, ac ystyried pob opsiwn yn llawn cyn cyflwyno polisïau a allai addasu cyfrifoldebau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dyma’r drefn ar gyfer pob cynnig polisi.