A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar ddatblygiadau hamdden a busnes ym Mharc Bryn Cegin, Bangor?
Liberty Properties Ltd yw’r datblygwr a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Hamdden ym mhen blaen y safle. Y mae wrthi’n paratoi cais cynllunio ac yn cael hyd i weithredwyr i gynnal ei gynigion. Mae’r cynigion yn cynnwys sinema, pum bwyty, tafarn deuluol a siop cynnyrch Cymreig ac o bosib, Canolfan Groeso a siop goffi gyrru trwyddi. Dywed Liberty ei fod wedi gorfod gohirio ei gynigion am fod y meddianwyr yn adolygu’u penderfyniadau buddsoddi yn sgil refferendwm Brexit.
Mae safle 5.7 erw ar fin cael ei werthu ar gyfer datblygu ffatri gaws newydd. Y mae eisoes wedi cael caniatâd cynllunio. Disgwylir gweld y gwaith adeiladu’n dechrau yn 2018.
Megis dechrau y mae’r trafodaethau ynghylch ymholiadau eraill am Barc Bryn Cegin.