WAQ70935 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/09/2016

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed ar weithredu argymhelliad 15 adroddiad yr Athro Sioned Davies 'Uniaith i Bawb'? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 22/08/2016

Mae argymhelliad 15 yn Un Iaith i bawb yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu canllawiau arfer gorau a nodi targedau ar gyfer cynyddu dysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm.

Rhwng 2012 a 2016, bu inni ariannu prosiect er mwyn i ddau glwstwr o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2. Cyhoeddwyd gwerthusiad o'r prosiect hwnnw'n ddiweddar:
http://gov.wales/docs/caecd/research/2016/160119-review-project-encourage-welsh-medium-teaching-in-english-medium-primary-schools-cy.pdf

Nawr, rydym yn gweithio i weld pa wersi sydd i'w dysgu o'r prosiect ac i'w casglu ynghyd. Byddwn yn rhannu'r arfer da sy'n deillio o'r prosiect hwn ar draws ysgolion mewn cydweithrediad â'r Consortia. Bydd canlyniadau'r prosiect hefyd yn sail i'n gwaith ar y cwricwlwm newydd.