A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r newid yng nghanran yr ymarferwyr addysg sy'n medru'r Gymraeg bob blwyddyn ers 2011? W
Ar hyn o bryd, cyhoeddir data ynghylch gallu athrawon ysgol i siarad Cymraeg yn flynyddol gan Gyngor y Gweithlu Addysg. Mae canran yr athrawon sy'n medru'r Gymraeg wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2011. 33. 3% yw canran yr athrawon cofrestredig sy'n medru'r Gymraeg yn 2016, o gymharu â 32. 0% yn 2011.
Canran yr athrawon ysgol cofrestredig sy'n medru'r Gymraeg
2011 | 2012 | 2013 | 2014 | 2015 | 2016 |
32. 0% | 32. 3% | 32. 5% | 32. 9% | 33. 1% | 33. 3% |
Ffynhonnell: Crynodeb Blynyddol Cyngor y Gweithlu Addysg 2016
Dim ond athrawon ysgol a gynhwysir yn yr ystadegau uchod. Ar hyn o bryd nid oes data ar gael ar gyfer nifer yr ymarferwyr sy'n medru'r Gymraeg mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch athrawon a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion ar gael yma: http://www.ewc.wales/site/index.php/en/documents/research-and-statistics/annual-statistics-digest/84-ewc-annual-statistics-digest-2016
Mae data ym maes addysg uwch ar gael ynghylch staff a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r data diweddaraf ar gael drwy ddilyn y ddolen isod (caiff diweddariad ei gyhoeddi ar 29 Medi): http://gov.wales/docs/statistics/2015/150929-welsh-higher-education-institutions-2013-14-cy.pdf