WAQ70905
(w)
Datganodd yr Aelod fuddiant
Wedi’i gyflwyno ar 31/08/2016
Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o ymgynghoriad Cymdeithas Tai Cantref â'i thenantiaid parthed ymuno a chymdeithas dai arall o dan delerau Deddf Tai 1996? R, W
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant | Wedi'i ateb ar 20/09/2016
Ysgrifennodd Tai Cantref at eu tenantiaid yn rhoi manylion am sut i godi pryderon neu holi cwestiynau am y cynigion. Rhoddwyd cyfle pellach i drafod y mater mewn cyfarfodydd o baneli’r tenantiaid, diwrnod hwyl gan y tenantiaid a chyfarfodydd eraill rhwng y tenantiaid a’r staff. Roedd y mwyafrif o’r ymatebion a dderbyniwyd yn bositif at ei gilydd.