WAQ70904 (w) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 31/08/2016

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod ymgynghoriad clir a thryloyw yn digwydd ynglŷn â dyfodol Cymdeithas Tai Cantref, i sicrhau bod barn yr Awdurdodau Lleol, y cyfranddalwyr a'r tenantiaid yn cael eu clywed? R, W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant | Wedi'i ateb ar 20/09/2016

Anfonodd Tai Cantref wybodaeth yn ymwneud â’r bwriad i uno â Thai Cymru a’r Gorllewin at bob un o’u tenantiaid a gwahoddwyd ymatebion er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon. Fe wnaeth Tai Cantref hefyd gynnal cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y tenantiaid, yr awdurdodau lleol a’r cyfranddalwyr, ym mis Gorffennaf ac ym mis Awst eleni.