WAQ70903 (w) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 31/08/2016

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod effeithiau posib ar yr iaith Gymraeg yn cael ei drin fel cwestiwn hanfodol ynglŷn â dyfodol Cymdeithas Tai Cantref? R, W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant | Wedi'i ateb ar 20/09/2016

Ym mis Awst 2016, fe wnaeth cyfranddalwyr Tai Cantref gefnogi â mwyafrif llethol benderfyniad y Bwrdd i uno â Thai Cymru a’r Gorllewin. Mae’r Bwrdd wedi hysbysu Llywodraeth Cymru mai un o’r ffactorau y gwnaethant eu hystyried oedd eu hymrwymiad i’r Gymraeg.