WAQ70895 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/08/2016

Ydy'r Gweinidog yn ystyried sefydlu gweithgor ar ddiwygio Cymraeg Ail Iaith gan Cymwysterau Cymru yn ddefnydd da o'i adnoddau, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu diddymu'r cymhwyster hwn? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 13/09/2016

Mae Cymwysterau Cymru, gyda chymorth ei weithgor, yn datblygu TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd ar gyfer ei haddysgu o 2017. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando Cymraeg mewn cyd-destunau bywyd go iawn, yr hyn a nodir yn Un iaith i bawb ac yn Dyfodol Llwyddiannus. Bydd y newidiadau yn cysoni'r cymhwyster ymhellach gyda'r TGAU Cymraeg Iaith (iaith gyntaf) a fydd yn helpu athrawon ac ysgolion i ddechrau gwneud y newidiadau angenrheidiol i addysgu a dysgu Cymraeg mewn paratoad ar gyfer y cwricwlwm newydd a chymwysterau Cymraeg newydd.