Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi cael gyda Cymwysterau Cymru ynghylch argymhelliad yr Athro Sioned Davies i gyflwyno cymhwyster cyfun Cymraeg i bob disgybl yng Nghymru yn lle'r gyfundrefn bresennol sy'n cynnwys cymhwyster Cymraeg Ail Iaith, ac erbyn pryd mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r cymhwyster Cymraeg newydd hwn? W
Mae Cymwysterau Cymru yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rwyf wedi gwneud yn glir na fydd Cymraeg Ail Iaith yn ymddangos yn y cwricwlwm newydd. Fy uchelgais o hyd yw bod y cwricwlwm newydd ar gael i ysgolion o 2018 ymlaen, ac i bob ysgol seilio ei addysgu a dysgu arno o 2021. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio yn agos gyda Cymwysterau Cymru a fydd yn gyfrifol am ddatblygu cymwysterau i gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd.