WAQ70892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/08/2016

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd er mwyn sicrhau fod mynediad i feddygon teulu yn nhref Penfro yn gwella? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 13/09/2016

Mae cynlluniau i recriwtio a hyfforddi rhagor o feddygon teulu, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd sylfaenol, yn flaenoriaeth allweddol gan Lywodraeth Cymru. Bydd ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol fawr i ddenu meddygon i hyfforddi, gweithio a byw yng Ngymru yn cael ei lansio ym mis Hydref. At hynny, mae'r byrddau iechyd wrthi'n gweithredu ein cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol sy'n nodi sut yr ydym yn moderneiddio gwasanaethau a ddarperir yn lleol, gyda chymorth £42m o fuddsoddiad mewn gofal sylfaenol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd wedi datblygu nifer o fentrau i wella mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn Sir Benfro. Mae'r cynlluniau ar gyfer gwasanaeth 'galw i mewn' ym meddygfa Dinbych y Pysgod yn mynd rhagddynt yn dda a disgwylir penderfyniad terfynol ar y model gwasanaeth yn ddiweddarach y mis hwn. At hynny, mae gwasanaeth 'brysbennu a thrin', sy'n cynnig asesiad a thriniaeth ar gyfer anafiadau bychain megis mân ysgriffiadau, archollion a briwiau; ysigiadau esgyrn a phroblemau bach â'r llygaid yn cael ei ddarparu trwy wyth o fferyllfeydd yn Sir Benfro. Mae Tîm Cymorth Gofal Sylfaenol y bwrdd iechyd, a sefydlwyd i helpu practisau meddygon teulu a allai fod angen cymorth ychwanegol, wedi bod yn helpu practisau meddygon teulu yng ngogledd Sir Benfro hefyd.