WAQ70807 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/07/2016

A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar sefydlu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 16/08/2016

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol bellach wedi’i sefydlu ers blwyddyn. Mae’r Ganolfan wedi penodi staff i weithio mewn lleoliadau ar draws Cymru ac wedi ymgymryd â phroses i resymoli nifer y darparwyr o’r 24 a fodolai i 10. Cyhoeddodd y Ganolfan ei Strategaeth ar gyfer y cyfnod 2016-2020 ar 30 Gorffennaf ac rwyf wedi sefydlu pwyllgor annibynnol i graffu ar waith y Ganolfan a rhoi cyngor i mi ar faterion megis gwerth am arian a sut mae’r Ganolfan yn ymateb i bolisïau Llywodraeth Cymru. Ceir mwy o wybodaeth am y pwyllgor yma: http://gov.wales/topics/educationandskills/allsectorpolicies/welshmededuca/welsh-for-adults/welsh-for-adults-scrutiny-committee/?lang=cy