WAQ70787 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/07/2016

Pa ymgynghoriad sydd wedi bod gydag adolygiad Hendry o forlynoedd llanw? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 12/08/2016

Mae fy Swyddogion yn paratoi tystiolaeth ar hyn o bryd i’w chyflwyno i adolygiad annibynnol Hendry ac rwy’n cyfarfod Charles Hendry, sy’n arwain yr adolygiad, wedi egwyl yr Haf. Rwy’n deall bod Adolygiad Hendry hefyd yn trefnu cyfarfod trawsbleidiol gydag Aelodau’r Cynulliad.
Mae disgwyl i’r adolygiad adrodd yn ôl yn yr Hydref, a bydd yn llywio polisi y Deyrnas Unedig tuag at forlynoedd llanw yn y dyfodol. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod yr adolygiad yn cynnwys Cymru a rhanddeiliaid o Gymru, o ystyried mai Cymru yw un o’r prif leoliadau o fewn y Deyrnas Unedig ar gyfer morlynoedd llanw.