WAQ70767 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/07/2016

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd er mwyn sicrhau mwy o feddygon teulu yn ardal Aberteifi? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 05/08/2016

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion maes o law ar gyfer ymgyrch recriwtio cenedlaethol a rhyngwladol i farchnata GIG Cymru fel lle deniadol i weithio ynddo. Mae hyn yn cynnwys gwaith i recriwtio, hyfforddi a chadw meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa sy'n ein wynebu ledled Cymru, gan gynnwys yn ardal Aberteifi. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu modelau gofal newydd.
Yn Aberteifi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod wrthi'n weithgar yn cefnogi practisau meddygon teulu ac yn cydweithio â nhw i recriwtio mwy o feddygon teulu, a hynny mewn cyfnod heriol o safbwynt recriwtio ledled y DU. Fodd bynnag, cyflwynodd Meddygfa Ashleigh rybudd i'r bwrdd iechyd yn ddiweddar ynghylch ymddeoliad meddyg teulu sy'n debygol o ddigwydd ym mis Ionawr 2017.
Mae gan y bwrdd iechyd gyfrifoldeb i sicrhau bod y ddarpariaeth o wasanaethau gofal sylfaenol o ansawdd uchel i gleifion yn parhau. Bydd angen iddynt werthuso'r holl opsiynau ar gyfer darparu gwasanaeth yn y dyfodol, gan gynnwys modelau gofal amgen a defnyddio ystod eang o weithwyr proffesiynol y maes gofal iechyd i ddiwallu'r anghenion iechyd lleol. Mae hyn yn cynnwys rhoi contract newydd neu gymryd y feddygfa o dan reolaeth y bwrdd iechyd. Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal cyfarfod cyhoeddus i holi barn y gymuned, ac mae'n ystyried y gwahanol opsiynau ar hyn o bryd. Rwy'n disgwyl iddynt barhau i weithio gyda'r gymuned leol i sicrhau bod y bobl leol yn ymwybodol o'r datblygiadau ac yn rhan ohonynt.