WAQ70760 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/07/2016

Yn dilyn cadarnhad gan y Prif Weinidog y bydd cynllun busnes yn cael ei greu ar gyfer Ysgol Feddygol yng Ngogledd Cymru, beth yw'r camau ac amserlen? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 05/08/2016

Ar 13 Gorffennaf, wrth ateb cwestiwn a godwyd gennych yn y cyfarfod llawn, cadarnheais fy mod wedi gofyn i fy swyddogion wneud gwaith cychwynnol yn y maes hwn.
Rwyf wedi cytuno i edrych i weld a oes yna achos busnes ar gyfer sefydlu ysgol feddygol arall yng Nghymru. Fodd bynnag, rwyf hefyd am ystyried hyn yng nghyd-destun gofynion addysg a hyfforddiant iechyd proffesiynol ehangach yn y Gogledd.
Rwy’n disgwyl canlyniad y gwaith cychwynnol hwn yn yr hydref. Byddaf mewn sefyllfa wedyn i ystyried y camau nesaf.