WAQ70756 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/07/2016

Pa wasanaethau sydd wedi cael eu hadleoli o Ysbyty Gwynedd i ysbytai eraill yng ngogledd Cymru ers 2010? W

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 05/08/2016

Yr adleoliad mawr a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod dan sylw oedd symud triniaethau sylweddol ym maes ENT a'r pen a'r gwddf o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Glan Clwyd. Digwyddodd hyn fel rhan o'r gwaith o ganoli materion sy'n ymwneud â'r pen a gwddf yng Nglan Clwyd i gefnogi'r ganolfan ragoriaeth yno. Gwnaed trefniadau cyfatebol tua'r un adeg a arweiniodd at driniaethau canser gynaecoleg yn cael eu canoli yn Ysbyty Gwynedd a thriniaethau canser gastroberfeddol uchaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Rwy'n deall y cytunwyd ar y newidiadau hyn gyda'r cyn gynghorau iechyd cymuned cyn 2010 fel cam cadarnhaol i wella canlyniadau cleifion, a hynny'n seiliedig ar dystiolaeth.

Bu rhai newidiadau i wasanaethau eraill oedd yn ymwneud ag adleoli i Ysbyty Gwynedd ac oddi yno ar raddfa lai, ond nid oedd y rhain yn golygu trosglwyddo gwasanaethau cyfan. Er enghraifft, gwelwyd ychydig o gynnydd mewn niferoedd o ran wroleg a gynaecoleg, ac ychydig o ostyngiad mewn llawdriniaethau ar y fron o ganlyniad i'r angen i gynnal y gwasanaethau'n briodol er mwyn ateb y galw a rheoli'r gallu ar draws rhwydwaith ysbytai Gogledd Cymru.

Mae Uned a arweinir gan Fydwragedd wedi cael ei datblygu ac wedi agor yn ddiweddar yn Ysbyty Gwynedd, sy'n cyd-fynd â'r ddarpariaeth o ofal mamolaeth yn y ddau ysbyty acíwt arall yng Ngogledd Cymru ac yn unol â thystiolaeth o arferion gorau.

Bydd Ysbyty Gwynedd yn parhau i chwarae rôl ganolog yn y ddarpariaeth o wasanaethau sydd wedi eu llunio i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol.